Castell a Pharc Bodelwyddan | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Dewch i ymweld â Chastell Fictoraidd a'i 260 erw o barcdir, gerddi, ystafelloedd wedi’u dodrefnu ac atyniadau rhyngweithiol i’r teulu. Mae Castell Bodelwyddan yn dyddio o’r 15fed Ganrif ond fe’i hailwampiwyd yn arddull yr Adfywiad Gothig yn yr 1820au. Adferwyd ein hystafelloedd hanesyddol yn yr 1980au i greu lleoliad anhygoel i bobl fwynhau gwaith celf yr Oriel Portreadau Cenedlaethol, y V&A a’r Academi Frenhinol. Mae gennym raglen arddangosfeydd hefyd a honno'n newid yn rheolaidd, digwyddiadau drwy’r flwyddyn, orielau cyffwrdd, gweithgareddau i blant, digwyddiadau paranormal, taith dywys â sain am ddim a staff sy'n wirioneddol gyfeillgar. Mae maes chwarae antur yn y Parc yng Nghastell Bodelwyddan (newydd yn 2011), gweddillion prin ffosydd ymarfer y Rhyfel Byd Cyntaf, parcdir agored sy’n ddelfrydol ar gyfer cael picnic a chwarae gemau, gerddi ffurfiol a llwybr braf drwy’r coetir sy’n cynnwys perllan, llannerch ieir fach yr haf a chuddfan adar.Â
cysylltu
Castell a Pharc Bodelwyddan
Bodelwyddan
Bodelwyddan
Sir Ddinbych
Ffôn: 01745 584060
Ffacs: 01745 584563
VAQAS
Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
cyffredinol
Oedolion: £6.60
Hyn: £5.50
Myfyrwyr: £5.50
Plant (hyd at 16 oed):£2.75
Grwpiau *
Oedolion: £5.00
Hyn: £4.00
Myfyrwyr: £4.00
Plant (hyd at 16 oed:£2.00
* Nifer lleiaf mewn grwp: 12
Nodyn: Mynediad dydd - Tocyn teulu 1 (1 oedolyn a 3 o blant) £13.20 Tocyn teulu 2 (2 oedolyn a 2 o blant) £16.50. Aelodaeth flynyddol - Oedolion £12.00, Pris Gostyngol £10.00,Plant (5 - 16 oed) £5.00,Tocyn teulu 1 (1 oedolyn a 3 o blant) £24.00,Tocyn teulu 2 (2 oedolyn a 2 o blant) £30.00.Plant o dan 5 oed AM DDIM. Mynediad am ddim i ofalwyr ymwelwyr anabl. Gostyngiad arbennig i grwpiau o 12 neu ragor sy'n trefnu o flaen llaw
Oriau Agor
30 Mai - 5 Mehefin
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
6 Mehefin - 24 Mehefin
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
25 Mehefin - 4 Medi
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
5 Medi - 23 Hydref
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
24 Hydref - 30 Hydref
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
31 Hydref - 18 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
11:00 - 16:00 |
7 Ionawr - 1 Ebrill
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
11:00 - 16:00 |
Nodyn: Bydd Castell Bodelwyddan ar gau rhwng 20 Rhagfyr 2010 a Ionawr 7 2011.
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Hanesyddol, Teulu, Diwylliant a Threftadaeth, Cestyll, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Castell a Pharc Bodelwyddan?
Ychydig oddi ar Gyffordd 25 gwibffordd yr A55.
Gan deithio o'r Gorllewin (Conwy/Llandudno): ar ôl i chi adael y ffordd ddeuol, cymerwch y lôn gyntaf oddi ar y gylchfan. Fe gyrhaeddwch chi ail gylchfan mewn dim; ac mae'r fynedfa i Gastell Bodelwyddan yn syth o'ch blaen (yr ail lôn oddi ar y gylchfan). Os ydych chi'n teithio o'r Dwyrain (Caer/Treffynnon); y fynedfa i Gastell Bodelwyddan yw'r lôn gyntaf oddi ar y gylchfan, yn syth ar ôl ichi adael y lôn ddeuol.
Cludiant Cyhoeddus
Bws: Rhifau 45, 51 a 55 o'r Rhyl; Rhif 15 o Gonwy; Rhif 13 o Brestatyn. Trên: y Rhyl neu Abergele/Pensarn