Canolfan Grefftau Corris | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae 9 stiwdio grefft yng Nghanolfan Grefftau Corris ac yno mi gewch chi eitemau unigryw i'ch cartref ac i'ch gardd a syniadau gwych am anrhegion hefyd. . Dyma rai o'r pethau a werthir yma: teganau, crochenwaith, gemwaith, nwyddau lledr, canhwyllau, nwyddau gwydr, cardiau wedi'u gwneud â llaw, dodrefn gwledig a thrwythau a meddyginiaethau llysieuol, . Beth am dorchi llewys a rhoi cynnig ar wneud eich crefftau'ch hun? Tarwch heibio i beintio crochenwaith, i drochi cannwyll ac i wneud eich cymysgedd llysieuol eich hun neu fe allwch drefnu o flaen llaw i ddod yma i greu darn o ddodrefn gwledig neu gardiau a dysgu gwneud llyfr lloffion, a hynny i gyd dan gyfarwyddyd arbenigol y Crefftwyr eu hunain. .
Mae'r Crochan yn defnyddio cynhwysion lleol i greu bwydlen flasus Gymreig ei naws. Galwch heibio i fwynhau ein brecwast poblogaidd sydd ar gael drwy'r dydd, coffi yn y bore, cinio neu de pnawn; mae amrywiaeth o fwydydd a diodydd poeth ac oer ar gael drwy'r dydd. Mae'r Crochan yn lle golau, braf a modern sy'n cynnig golygfeydd o bob tu o fryniau coediog trwchus Dyffryn Corris.
Beth am gael golwg ar ein fideo?
cysylltu
Canolfan Grefftau Corris
Corris
Machynlleth
Powys:
Ffôn: 01654 761584
Ffacs: 01654 761575
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Nodyn: Mynediad am ddim. Mae digon o lefydd parcio ar gael am ddim hefyd a llefydd i ymwelwyr anabl o fewn ychydig lathenni i'r Ganolfan Grefftau.
Oriau Agor
Canolfan Grefftau Corris
28 Mawrth - 31 Hydref
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
Nodyn: Sylwer: Bydd llawer o'r Stiwdios Crefftau ar agor ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn hefyd. Y peth gorau bob tro yw ffonio, yn ystod yr adegau tawelach hyn, cyn ichi ddod yno'n unswydd.
categori
Rhan o: Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Canolfan Grefftau Corris?
Mae Canolfan Grefftau Corris ar briffordd yr A487 rhwng Machynlleth a Dolgellau
Cludiant Cyhoeddus
Arosfan fysiau ar yr A487 y tu allan i Ganolfan Grefftau Corris. Gorsaf drenau ym Machynlleth - 5 milltir.