Stiwdio Celf Gain Keith Andrew | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Yn y stiwdio, mi welwch chi baentiadau gwreiddiol, ysgythriadau a phrintiau ar werth. Croeso ichi ddod i gael sgwrs am gomisiwn hefyd.
Ganwyd a hyfforddwyd Keith Andrew RCA yn Llundain. Mae'n baentiwr amser llawn ers 1975. Dyna pryd y symudodd i Ynys Môn, gogledd Cymru.
Yn 1975, gwelodd Keith arddangosfa fechan yn Blackheath, Llundain a dyma'r hedyn a'i hysbrydolodd, ac mae'r hedyn hwnnw'n dal i dyfu. Arddangosfa o ddyfrlliwiau'r ddeunawfed ganrif oedd hi'n cynnwys gweithiau gan Samuel Palmer, David Cox, Turner ac yn enwedig John Varley. Gwnaeth y sioe argraff barhaol ar Keith. O'r foment honno ymlaen, astudiodd dechneg y ddeunawfed ganrif a llunio'i weledigaeth gyfoes. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, symudodd i Gymru gan ddisgwyl cymaint o'r mynyddoedd a'r tirweddau a welodd yng ngweithiau'r artistiaid hyn. Yn wahanol iddyn nhw, fe arhosodd.
cysylltu
Stiwdio Celf Gain Keith Andrew
Uned 5/6, Ystâd Ddiwydiannol Llannerch-y-medd
Stryd Farmer
Llanerchymedd
Ynys Môn
Ffôn: 01407 720651 or 01248 470903
Oriau Agor
Stiwdio Celf Gain Keith Andrew
1 Ionawr - 24 Rhagfyr
Nodyn: Mae'r stiwdio ar agor drwy drefniant. Ffoniwch 01407 720651 i drefnu amser.
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Stiwdio Celf Gain Keith Andrew?
http://www.keithandrew-art.com/pages/studio.html