Traphont Ddwr Poncysyllte | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Traphont Ddwr Pontcysyllte , sy'n rhan allweddol o Gamlas Llangollen, yn sefyll yn ei holl ogoniant wrth droed Bwlch yr Oernant, dair milltir i'r dwyrain o Langollen, gan groesi Afon Dyfrdwy ar uchder (126 troedfedd) sy'n ddigon i wneud unrhyw un yn benysgafn.
Mae Pontcysyllte dros 1000 troedfedd o hyd a dyma'r draphont ddwr haearn bwrw hwyaf ac uchaf yn y byd. Mae'n cael ei thrysori gan Ddyfrffyrdd Prydain ac erbyn hyn mae'n adeilad rhestredig Gradd 1, yn Heneb Genedlaethol yng Nghymru ac yn un o saith rhyfeddod System Dyfrffyrdd Mewndirol Prydain. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio at ei bwrpas gwreiddiol wrth gwrs, gyda mwy na mil o gychod camlas yn ei chroesi bob blwyddyn.
Rhoddwyd Statws Treftadaeth y Byd iddi ym mis Mehefin 2009
cysylltu
Traphont Ddwr Poncysyllte
d/o Dyfrffyrdd Prydain
Navigation Road
Llangollen
Wrecsam
Ffôn: 01606 723 800
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
categori
Rhan o: Diwylliant a Threftadaeth, Cychod, Trenau a Thramiau categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Traphont Ddwr Poncysyllte?
Ffordd ymadael A483 tuag at yr A539 i Whitchurch/Llangollen. Dilynwch y ffordd tuag at Langollen. Mae arwyddion i'r Draphont Ddwr i'r chwith yn Nhrefor.