Parc Llandudno | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Parc Llandudno yw'r ychwanegiad diweddaraf at gyfleusterau siopa Llandudno. Agorodd y safle ym mis Hydref 2007 ac mae'n cynnig ffasiynau o'r safon uchaf; siopau adrannol gan gynnwys Debenhams, Next, BHS, New Look, RIver Island a siop ffasiynau a nwyddau i'r cartref Laura Ashley sydd wedi agor yno'n ddiweddar.
Gall ymwelwyr gael hoe fach a phanad haeddiannol yn Costa Coffee neu yng nghaffis siopau Debenhams a BHS. ,br />
Mae Parc Llandudno gyferbyn ag archfarchnad Asda ac wrth ymyl Parc Manwerthu Mostyn Champneys sy'n cynnig rhagor o siopau gan gynnwys Currys, Argos a Harveys.
Mae gan Barc Llandudno ei faes parcio'i hun ar y safle lle cewch barcio am ddim am hyd at 2 awr.
cysylltu
Parc Llandudno
Parc Manwerthu Llandudno
Mostyn Broadway
Llandudno
Conwy
Oriau Agor
Parc Llandudno
2 Ionawr - 31 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 20:00 | |||||||
09:00 - 19:00 | |||||||
11:00 - 17:00 |
Nodyn: Holwch y siopau eu hunain am eu hamserau agor.
categori
Rhan o: Teulu categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Parc Llandudno?
Tuag at ben deheuol Stryd Mostyn gyferbyn ag archfarchnad Asda.
Cludiant Cyhoeddus
Mae'n ddigon rhwydd cerdded o orsaf drenau Llandudno ac o sawl arosfan fysiau