Hebogfa Pen y Bryn | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Hebogfa Pen y Bryn yng nghanol ysblander hardd sir Ddinbych yng ngogledd Cymru. Mae’n cynnig profiad unigryw sef gweld y cwlwm anghredadwy hwnnw sy’n gallu bodoli rhwng dyn ac aderyn a gweld rheolaeth yr hebogwr ar waith.
Mae’r sioeau’n cynnwys gwahanol adar ysglyfaethus ac yn cynnig cyfle i chi’r gwyliwr fod yn rhan o’r cyfan a hyd yn oed ichi wisgo’r faneg eich hun. D Dyma rai o'r adar sydd gennym: Boncath Cynffongoch, Tylluan Fawr Bengal, Hebog Tramor, Tylluan Wen, a Hebog Gwlanog Mawr, (Pere a Gyr) Gweilch Harris, Tylluan yr Eira a llawer mwy.
Mae gan Hebogfa Pen y Bryn bopeth wrth law ichi drefnu eich diwrnod perffaith - croeso ichi ddod yma i ddysgu sut mae trin yr adar anhygoel hyn, neu ddim ond i'w gwylio'n hedfan.
Â
cysylltu
Hebogfa Pen y Bryn
Pen y Bryn
Betws Gwerfyl Goch
Corwen
Sir Ddinbych
Ffôn: 01490 420244
Oriau Agor
Hebogfa Pen y Bryn
20 Mawrth - 15 Medi
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09:30 - 17:00 |
Nodyn: DIM OND DRWY DREFNIANT. DRWY'R FLWYDDYN AC EITHRIO AR DDYDD NADOLIG.
categori
Rhan o: Fferm, Bywyd Gwyllt a Sw, Teulu categori
Cludiant Cyhoeddus
Corwen (bws)