Parc Hamdden Plassey | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Parc Hamdden Plassey wedi ennill llu o wobrau ac mae'n gorwedd mewn 247 erw o barc a choetir ym mhrydferthwch Dyffryn Afon Dyfrdwy, gerllaw pentrefi tlws Overton a Bangor is-y-coed. Eiddo preifat yw'r parc ym mherchnogaeth ac o dan reolaeth teulu'r Brookshaw ers dros 40 mlynedd ac maen nhw wedi datblygu tir ac adeiladau'r hen fferm laeth yn Barc Hamdden.
Ymhlith y llu o gyfleusterau amrywiol mae'r;
Maes Carafannau teithio, sy'n ennyn canmoliaeth fawr. Mae'n cynnig pwll nofio cynnes dan do, maes chwarae antur i blant, adeilad toiledau a chawodydd o'r radd flaenaf a nifer o safleoedd gwell na'r cyffredin sy'n darparu'r holl wasanaethau.
Canolfan Grefftau a Manwerthu, gydag oddeutu pump ar hugain o fusnesau'n amrywio o siopau dillad ffasiynol, crefftau wedi'u gwneud â llaw, stiwdio gwallt a harddwch, i weithdy gof traddodiadol a chyflenwyr nwyddau ceffylau.
Mae'r hen stablau bellach yn gartref i Siop Goffiac mae'r Bwyty trwyddedig yn gweini prydau blasus i'r trigolion ac i ymwelwyr â'r Ganolfan Grefftau. Mae gennym Ganolfan Arddio hyd yn oed ac rydym yn gartref i un o brif Fragdai annibynnol Cymru Bragdy Plassey.
cysylltu
Parc Hamdden Plassey
Plassey
Eyton
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 780 277
Ffacs: 01978 780 019
VAQAS
Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
Mae hwn yn atyniad rhad ac am ddim
Nodyn: Mynediad i'r Parc am ddim - Golff £15.00 am 18 twll - Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
Oriau Agor
Parc Hamdden Plassey
2 Ionawr - 24 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10:00 - 17:00 |
Nodyn: 7 niwrnod yr wythnos, drwy'r flwyddyn. Tan 5.00pm
categori
Rhan o: Parciau a Gerddi, Teulu, Celf, Crefft categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Parc Hamdden Plassey?
Cymerwch ffordd ymadael y B5426 Bangor is-y-coed oddi ar Ffordd Osgoi'r A483 Caer-Croesoswallt.