Y Deyrnas Gopr, Amlwch | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae'r hen waith mwynau ym Mynydd Parys yn olygfa syfrdanol, yng nghanol tirlun rhyfeddol o greigiau coch, melyn a phorffor. Mae'r lle mor debyg i'r lleuad nes bod ffilmiau gwyddonias wedi'u gwneud yma! Mae'r llwybrau treftadaeth ar y mynydd yn gadael ichi ddarganfod drosoch eich hun y gwaith cloddio brig mawr a wnaeth dynion yma ac adfeilion hen adeiladau'r gwaith mwynhau.
Ym Mhorth Amlwch, fe welwch chi fod llawer o'r adeiladau gwreiddiol yno o hyd i chi eu harchwilio, megis y Biniau Copr, Ty'r Gwylwyr a Simneiau'r Gweithdy. Yng Nghanolfan Ymwelwyr y Llofft Hwyliau, cewch fwynhau tamaid blasus neu daro golwg o gwmpas y siop rhoddion ond cofiwch ymweld ag arddangosfa treftadaeth adeiladu llongau Amlwch, diwydiant a oedd yn enwog drwy'r byd. A dweud y gwir, mae Porth Amlwch yn lle bendigedig i ymlacio a gwylio prysurdeb yr harbwr!!
Mae llwybr Treftadaeth Porth Amlwch yn rhan o Lwybr Arfordir Ynys Môn, ac mae'n rhwydd cyrraedd y llwybr o'r fan hon.
cysylltu
Y Deyrnas Gopr, Amlwch
Yr Hen Lofft Hwyliau
Porth Amlwch
Anglesey
Ffôn: 01407 832255
VAQAS
Mae hyn yn atyniad Ymwelwyr Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniad (VAQAS) cymeradwyo.
Ewch i VAQAS gwefan am fwy o fanylion ...
prisiau
Nodyn: Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
Oriau Agor
Y Deyrnas Gopr, Amlwch
Nodyn: Ar agor Caffi a mynediad am ddim i'r Arddangosfa Forol ac Arddangosfa'r Gwaith Copr Ar agor: rhwng Pasg a Sulgwyn 11am - 5pm. O ddydd iau tan ddydd Sul. Rhwng Sulgwyn a Medi 11am - 5pm bob dydd. Ffoniwch 01248 725 758 i drefnu taith dywys, teithiau tywys i ysgolion, ymweliadau grwp a chyfarfodydd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Llofft Hwyliau.
categori
Rhan o: Diwylliant a Threftadaeth categori