Gwaith Plwm Minera | Gweld Manylion Atyniad
disgrifiad
Mae Gwaith Plwm a Pharc Gwledig Minera yn cynnig golwg difyr iawn ar orffennol diwydiannol Dyffryn Clywedog. Ym mhen draw'r Dyffryn, mae Minera'n fan cychwyn da iawn i grwydro Llwybr Clywedog neu i gyrraedd harddwch cefn gwlad Mynydd Minera. Beth am fwynhau picnic neu fynd am dro ar hyd yr hen reilffordd ac archwilio'r Parc Gwledig, a golygfeydd braf y wlad o'i gwmpas? Gall ymwelwyr archwilio olion yr ardaloedd lle byddai plwm yn cael ei brosesu yn y 19eg ganrif a'r hen dy injan sydd wedi'i ail-greu, Neu beth am badellu am blwm, neu ddysgu rhagor yn y Ganolfan Ymwelwyr am ddaeareg, hanes cymdeithasol a diwylliannol gweithio plwm yn yr ardal, gan gynnwys tystiolaeth am y gwaith a oedd yno yn oes y Rhufeiniaid.
cysylltu
Gwaith Plwm Minera
Ffordd y Wern, Minera
Coedpoeth
Wrexham
Wrecsam
Ffôn: 01978 261 529
Ffacs: 01978 361 703
prisiau
Nodyn: Am ddim
Oriau Agor
Gwaith Plwm Minera
2 Ionawr - 24 Rhagfyr
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
12:00 - 17:00 |
Nodyn: Ar agor Gwyliau'r Ysgol adeg y Pasg ac yn yr Haf. Mynediad Olaf: Hanner awr cyn cau.
categori
Rhan o: Amgueddfa ac Oriel, Hanesyddol, Diwylliant a Threftadaeth categori
Sut ydw i'n dod o hyd i Gwaith Plwm Minera?
Gadewch yr A483 gan ddilyn yr A525 am Ruthun. Yng Nghoedpoeth, gyferbyn â Thafarn y Five Crosses, dilynwch y B5426 (Ffordd Minera Hall) a'r arwydd Minera arni, a dilynwch y ffordd hon am ychydig dros filltir nes ichi gyrraedd y fynedfa i'r safle a'r maes parcio ar y dde. Chwiliwch am yr arwyddion brown sy'n dweud Pyllau Plwm.